DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Diwygiadau Amrywiol) 2024

DYDDIAD

23 Ebrill 2024

GAN

Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

 

 

Bydd Aelodau'r Senedd yn dymuno cael gwybod ein bod yn rhoi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.

 

Gofynnodd y Gweinidog Gwladol dros Fioddiogelwch, Iechyd a Lles Anifeiliaid, yr Arglwydd Douglas-Miller imi gytuno i'r bwriad i wneud Offeryn Statudol (OS) o'r enw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Diwygiadau Amrwyiol) 2024 ("Rheoliadau 2024") i fod yn gymwys i'r Deyrnas Unedig.

 

Gwnaed yr OS uchod gan y Gweinidog Gwladol drwy arfer y pwerau a roddir o dan:

 

·         Erthyglau 72(3), 73(2), 76(4) a 105(6) o Reoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion ("y Rheoliad Iechyd Planhigion");

§  Erthyglau 22(2), 48(h), 54(3), 77(1), 90 a 144(6) o Atodiad 6 i Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor a pharagraff 3(2) ohono, ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion ("y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol");

 

 

Diben Rheoliadau 2024 yw gweithredu cerrig milltir Model Gweithredu Targed y Ffin ("BTOM"), a ddaw i rym ar 30 Ebrill, i amddiffyn bioddiogelwch a chefnogi masnach rhwng Prydain Fawr a thrydydd gwledydd.  Mae'n cyflwyno cyfundrefn fewnforio fyd-eang newydd sy'n seiliedig ar risg ar gyfer nwyddau o'r Undeb Ewropeaidd a gweddill y byd o ddiwedd mis Ebrill 2024 ymlaen.  Mae'r newidiadau a wneir gan Reoliadau 2024 yn ymwneud â rheolaethau ar fewnforion i Gymru, Lloegr a'r Alban ar gyfer y gyfres o nwyddau a elwir gyda'i gilydd yn nwyddau iechydol a ffytoiechydol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n eithrio nwyddau sy'n cyrraedd o  Iwerddon rhag y gofyniad am wiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol. Nid ydym eto wedi cytuno â llywodraethau'r DU a'r Alban ar ddyddiad ar gyfer dechrau gwiriadau ffisegol ar allforion o Iwerddon, ac rydym eisoes wedi cyhoeddi na fydd ein cyfleusterau yn weithredol tan y gwanwyn 2025.

Ar 28 Ebrill 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU saib i gyflwyno rheolaethau mewnforio pellach ar nwyddau iechydol a ffytoiechydol o'r UE i Brydain Fawr, a'i bwriad i ddatblygu Model Gweithredu Targed Ffiniau (BTOM) sy'n nodi cyfundrefn newydd o reolaethau mewnforio ar ffiniau. Cyhoeddwyd y newidiadau arfaethedig i drefn rheolaethau swyddogol ffiniau iechydol a ffytoiechydol yn y BTOM ym mis Awst 2023. Bydd y drefn newydd hon yn berthnasol i'r un graddau i'r UE a nwyddau o weddill y byd, gydag ymagwedd gymesur sy'n seiliedig ar risg ac yn ddull datblygedig yn dechnolegol o fynd i'r afael a  rheolaethau.

 

 

Unrhyw effaith y gallai'r OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru.

 

Nid yw Rheoliadau 2024 yn ymrwymo Gweinidogion Cymru i fabwysiadu unrhyw safbwynt o eiddo Llywodraeth y DU ar fioddiogelwch yn y dyfodol. Nid yw'r Rheoliadau yn lleihau nac yn tanseilio pwerau Gweinidogion Cymru mewn unrhyw ffordd.

Caiff rheolaethau iechydol a ffytoiechydol ar fewnforion o'r UE a diwygio'r drefn rheoli iechydol a ffytoiechydol gyfredol ar gyfer mewnforion o weddill y byd eu cyflwyno'n raddol.  Mae hyn yn targedu llwythi risg uwch tra'n symleiddio prosesau lle mae'n ddiogel gwneud hynny, er mwyn hwyluso masnach.  Mae'r BTOM yn cael ei weithredu trwy ddull graddol o weithredu, wedi'i alluogi gan gyfres o newidiadau deddfwriaethol cyn y cerrig milltir cyhoeddedig.

Hoffwn sicrhau'r Senedd mai polisi Llywodraeth Cymru fel arfer yw deddfu dros Gymru ar faterion o fewn cymhwysedd datganoledig. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, mae manteision i gydweithio â Llywodraeth y DU pan fo sail resymegol glir dros wneud hynny. Ar yr achlysur hwn, rwyf wedi rhoi fy nghydsyniad i'r Rheoliadau hyn er mwyn sicrhau effeithlonrwydd a hwylustod o ran newid polisi yn y dyfodol, cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol, cydgysylltu ar draws y DU a chysondeb.

Diben Rheoliadau 2024

 

Diben Rheoliadau 2024 yw amddiffyn bioddiogelwch, sicrhau diogelwch bwyd a chefnogi masnach, drwy gyflwyno y cerrig milltir a nodir yn y Model Gweithredu Targed y Ffin, a gytunwyd gan holl weinyddiaethau Prydain.

 

Mae'r Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n nodi pwrpas, ac effaith Rheoliadau 2024, ar gael yma:

 

https://www.legislation.gov.uk/uksi/2024/541/contents/made

 

 

Pam y rhoddwyd cydsyniad

 

Rhoddwyd cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud yr offeryn hwn o ganlyniad i'r cytundeb ar Fodel Gweithredu Targed y Ffin rhwng y tair gweinyddiaeth ym Mhrydain i gyflwyno cyfundrefn iechydol a ffytoiechydol ystyrlon a chyson ar gyfer nwyddau a fewnforir i Brydain i amddiffyn bioddiogelwch a sicrhau bod safonau diogelwch bwyd yn cael eu cynnal.